Jump to content

Adeiladu Lleoedd Iachach a Thecach: Effaith Cyfyngiadau Tai ar Ryddhau o Ysbytai GIG yng Nghymru

Cyhoeddwyd yr ymchwil hwn fel rhan o’n hymgyrch ar gyfer etholiadau 2026 i Senedd Cymru.

Er bod oedi cyn rhyddhau o ysbytai GIG yn dangos arwyddion o wella yn gyffredinol, dengys dadansoddiad CHC fod oedi cysylltiedig â thai yn symud yn y cyfeiriad anghywir.

Ers mis Ebrill 2023, mae’r oedi cyfartalog ar gyfer y rhan fwyaf o gleifion wedi gostwng o 50 i 45 diwrnod. Mae wedi dringo o 63 i 76 diwrnod ar gyfer y rhai sy’n aros oherwydd tai.

Er fod materion tai yn effeithio ar tua 5 ym mhob 100 o gleifion sy’n disgwyl cael eu rhyddhau o ysbyty, mae’r unigolion hynny yn cyfrif am fwy na 8 ym mhob 100 o ddyddiau gwely a gollir.

Ar gyfer y rhan fwyaf o bobl wedi eu dal yn y sefyllfa hon, nid yw gwely mewn ysbyty yn cymharu gydag bod adref: wedi eu gwahanu oddi wrth eu teuluoedd, yn methu ailadeiladu trefn ddyddiol a gydag annibyniaeth yn llithro ymhellach o’u cyrraedd.

Canfyddiadau allweddol o ymchwil CHC:

  • Mae oedi cysylltiedig â thai yn costio £31,500 y noson i GIG, neu £2.49 miliwn cronnus y flwyddyn
  • Mae oedi cysylltiedig â thai yn effeithio ar 5 mewn 100 o gleifion, gan arwain at 4,981 o ddyddiau oedi cronnus
  • Mae angen cynyddu cyflenwad ac addasiadau i ateb y galw